News

AC LLANELLI YN ANFON LLONGYFARCHIADAU AT MYFYRWYR LEFEL-A

Mae AC Llanelli Keith Davies yn anfon llongyfarchiadau at myfyrwyr Lefel-A ar draws Llanelli a’r Gwendraeth sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw.

Mae myfyrwyr wedi bod yn darganfod trwy’r bore sut y bydd eu canlyniadau’n effeithio ar eu gyfaoedd yn y dyfodol.

Dywedodd Keith Davies AC:

“Yn gyntaf credaf y dylai pob myfywriwr bod yn falch o’u hunain heddiw.  Bu’r canlyniadau a dderbynwyd yn ganlyniad o ddwy flynedd o waith caled, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at cyraeddiadau mawr i ddisgyblion ar draws etholaeth Llanelli.”

“Tra ei fod yn mynd yn annoddach i ddiogelu lle mewn prifysgol, mae sawl opsiwn ar gael i bobl ifanc pan y byddent yn gorffen eu astudiaethau academaidd.  Rwy’n cefnogi’n llwyr amcan Llywodraeth Cymru i wella safonau addysg ledled Cymru, a hefyd i gynyddu’r nifer o brentisiaethau a fydd yn llawer mwy gwobrwyol i rai bobl ifanc.”

“Yn ail, hoffwn ddiolch i’r holl athrawon a rhieni am y cefnogaeth ag annogaeth a roddwyd gyda gwaith cwrs a’r broses arholiadau.”