Mae fy ngwraig, Heddyr, a finne’n byw yn Ffwrnes gyda’n dau fab yn eu harddegau. ’Rydw i’n rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gyfun y Strade ac yn llywodraethwr cymunedol yn Ysgol Gynradd Ffwrnes.
Trwy gydol fy oes ’rwyf wedi bod yn sosialydd gan mai ym mhentref glofaol yn Nyffryn Aman cefais fy magu.
O’m dyddiau cynnar fel athro yn y Gwendraeth hyd at fy amser fel Cyfarwyddwr Addysg, deuthum yn gyfarwydd â delio a phob math o faterion
sensitif o ymladd am gyllid i ysgolion i wella cyfleoedd i blant ag anghenion arbennig.
Mae fy mlaenoriaethau’n cynnwys diogelu swyddi a gwella cyfleoedd gwaith pobl ifainc, amddiffyn ein gwasanaethau rheng flaen yn enwedig mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac ysgolion, gan barhau i ddwyn pwysau ar yr asiantaethau i ddatrys ein problemau llifogydd a phroblemau llygredd carffosiaeth yn yr ardal ac adfywio Canol Tref Llanelli.
Rhwng 2004 a 2008 roeddwn yn Gynghorydd Sir dros Hengoed ar Gyngor Sir Gâr ac roeddwn hefyd yn Ysgifennydd y Grwp Llafur.
Ar ôl graddio ‘roeddwn mewn swyddi uwch mewn ysgolion a cholegau cyn dechrau mewn llywodraeth leol yn gyntaf fel arolygydd ysgolion ac yn y pen draw fel uwch swyddog gweinyddol. Yn ystod fy nghyfnod fel arolygydd bum yn gwasanaethu fel swyddog undeb llafur gan wasanaethu ar Bwyllgorau cenedlaethol yn trafod cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr yn y sector cyhoeddus.
Yn fy amser hamdden rwyn mwynhau cefnogi’r Scarlets yn ogysta â chlybiau lleol eraill. Hefyd rwyn mwynhau darllen a chadw’n heini.
Gradd Dosbarth Cyntaf a MA mewn Mathemateg Bur o Brifysgol Abertawe.
Cymhwyster Addysgu PGCE (FE) o Brifysgol Caerdydd.
Uwch Ddarlithydd mewn Coleg Addysg Caerdydd.
Ymgynghorydd mewn Mathemateg a Ffiseg AALl Morgannwg
Uwch Ymgynghorydd Uwchradd ac yna Prif Gynghorydd AALl Morgannwg Ganol
Cyfarwyddwr Addysg ar gyfer Morgannwg Ganol ac yna Sir Gaerfyrddin